EIN STORI

Mae’r cofnod cynharaf o’r Farchnad Anifeiliaid yn Wrecsam i’w weld mewn gweithred sy’n dyddio’n ôl i drydedd flwyddyn teyrnasiad Edward IV, oddeutu 1463, pan gyfeiriwyd ato fel Mercatus Averriorum, sy’n golygu Marchnad Adar mewn Lladin. Yn 1620 comisiynodd Charles Tywysog Cymru y syrfëwr John Norden i gynnal arolwg o holl eiddo’r tywysog, ac erbyn iddo gwblhau’r arolwg roedd y farchnad eisoes yn cael ei galw’n Forum Bestiale – sef ‘Beast Market’ yn Saesneg.

Yn wreiddiol roedd y lleoliad yn fan agored a oedd yn ganolbwynt masnachu da byw a nwyddau eraill, ac roedd yn brif leoliad ar gyfer amryw o ffeiriau a marchnadoedd dros y blynyddoedd, megis Ffair Mawrth, sef y ffair hynaf yn Wrecsam. Roedd anifeiliaid a chynnyrch yn cael eu cludo yma o bob cwr o’r wlad nes dyfodiad y rheilffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif, a hon oedd y ffair fwyaf o’i math yng ngogledd Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd masnachwyr o Gymru yn dod ag ystod eang o nwyddau i Wrecsam gan gynnwys tecstilau a da byw fel ceffylau a gwartheg. Roedd masnachwyr o du allan i Gymru yn dod â nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu o ddinasoedd fel Manceinion, Birmingham a Sheffield.

Dros y canrifoedd, esblygodd y farchnad a dechreuodd masnachwyr adeiladu eu neuaddau marchnad eu hunain yn y dref, a ehangwyd yn y pen draw i gynnwys amrywiaeth o werthwyr a nwyddau, gan ddarparu profiad siopa amlbwrpas ar gyfer cymuned Wrecsam a oedd yn tyfu.

Yn ddiweddarach, daeth safle’r Farchnad Anifeiliaid yn gartref i nifer o farchnadoedd eraill, gan gynnwys marchnad gig wythnosol Smithfield, a’r Farchnad Dydd Llun eiconig, a oedd yn eithriadol o boblogaidd gan y byddai trigolion yn siopa a masnachu yno’r peth cyntaf ar fore Llun gan fod siopau ar gau ar y Sul.

Yn 1975, symudwyd y farchnad hon i ddechrau i’r safle ble mae Dôl yr Eryrod bellach yn sefyll. Yna cafodd ei symud i faes parcio’r Byd Dŵr yn 2002 ar ôl i’r hen safle gael ei droi yn faes parcio. Yn y pen draw, symudwyd y Farchnad Dydd Llun i’w chartref presennol ar Sgwâr y Frenhines yn 2006.

Heddiw, mae’r Farchnad Dydd Llun bellach yn rhedeg menter lwyddiannus lle gall masnachwyr rentu llain yn y farchnad awyr agored wythnosol yn rhad ac am ddim tan 31 Rhagfyr 2024.

Dyluniwyd y farchnad hon gan y pensaer Thomas Penson ac fe’i hadeiladwyd gan Gwmni Neuadd y Farchnad Wrecsam. Roedd dyluniad Penson yn cynnwys 13 siop o amgylch terfyn allanol y farchnad a 31 o stondinau yn y canol, a ddefnyddiwyd yn bennaf gan werthwyr menyn, wyau a dofednod ffres.

Ar y pryd, beirniadodd rhai pobl y syniad o gael marchnad dan do, gan ddadlau na fyddai cigyddion byth yn gwerthu eu cig dan do gan eu bod wastad wedi gwerthu ar y strydoedd. Fodd bynnag, mae’n debyg mai dim ond hanner awr gymerodd hi i brofi bod y beirniadaethau hyn yn anghywir.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y selerydd o dan y farchnad fel llochesau rhag cyrchoedd awyr. Mae trigolion lleol yn credu bod y selerydd hyn wedi’u cysylltu gan dwnnel ag Eglwys San Silyn.

Ehangwyd Marchnad y Cigyddion rhwng 1979 ac 1980, ac ychwanegwyd mynedfa gefn newydd yn ystod y cyfnod hwn o Stryt Henblas.

Agorodd y Farchnad Gyffredinol ei drysau am y tro cyntaf yn 1879, ac roedd yn cael ei hadnabod yn wreiddiol fel y Farchnad Fenyn. Roedd y safle hanesyddol hwn, a oedd unwaith yn cael ei adnabod fel Sgwâr Manceinion, yn ganolbwynt llawn bwrlwm ar gyfer masnachwyr o du allan i’r dref – yn enwedig rhai o Fanceinion – a oedd yn dod â thecstiliau i ffeiriau blynyddol Wrecsam. Roedd adeilad llai a oedd yn gartref i’r Farchnad Datws a’r Neuadd Gerdd yn arfer bod ar y safle hefyd, ond dymchwelwyd yr adeiladau hynny yn yr 1870au i wneud lle i’r adeilad brics coch a therracotta presennol.

Roedd enw gwreiddiol y farchnad, sef y Farchnad Fenyn, yn adlewyrchu ei phwrpas gwreiddiol sef canolfan i fasnachu nwyddau ffermdai, gyda menyn a chynhyrchion llaeth eraill yn brif atyniadau. Yn ôl pob sôn roedd y gwragedd fferm lleol yn cystadlu’n frwd i werthu eu menyn i gwsmeriaid. Fodd bynnag, yn 1939 ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, oherwydd dogni a rheoliadau hylendid newydd cafodd y farchnad ei thrawsnewid. Cafodd ei throi’n farchnad gyffredinol a lleihawyd ei swyddogaeth draddodiadol o ran gwerthu cynnyrch llaeth yn sylweddol.

Roedd y Farchnad Lysiau’n ddatblygiad graddol a ddechreuodd yn yr 1870au gan Gwmni Neuadd y Farchnad. Addaswyd safleoedd Sgwâr y Frenhines, sef datblygiad bach ger Stryt y Frenhines, a Neuadd Birmingham, lle roedd masnachwyr o Sgwâr Birmingham wedi symud ar ôl iddo gael ei werthu oddeutu 1820.

Yn 1898, prynodd Cyngor y Fwrdeistref y safleoedd ac o ganlyniad cafodd yr ardal ei hymestyn a gosodwyd to i’w gorchuddio. Ychwanegwyd blaen arddull Tuduraidd ar Stryt y Frenhines y naill ochr i’r fynedfa, ac yna cafodd yr ardal ei hail-enwi yn Farchnad Lysiau. Yn anffodus, dymchwelwyd y Farchnad Lysiau yn 1992.

Adeiladwyd Marchnad y Bobl yn 1992 fel rhan o gynllun i ailddatblygu Wrecsam, a hon oedd y farchnad ddiweddaraf o’r holl farchnadoedd dan do a oedd yn bodoli cyn hynny yn Wrecsam. Roedd y lleoliad yn gartref i Farchnad Lysiau Wrecsam yn wreiddiol, ond dymchwelwyd honno ddwy flynedd ynghynt i wneud lle i’r adeilad newydd. Symudodd nifer o stondinwyr o’r Farchnad Lysiau i’r farchnad newydd.

Yn 2015, datgelwyd cynlluniau i drawsnewid Marchnad y Bobl yn gyfuniad o farchnad a chanolbwynt celfyddydol a enwyd yn ddiweddarach yn Tŷ Pawb. Byddai’r gwaith ailwampio’n cynnwys ychwanegu dwy oriel, ardal berfformio, siop oriel a stondinau marchnad ychwanegol.

MARCHNAD DYDD LLUN

Heddiw, mae’r Farchnad Dydd Llun bellach yn gyrru menter lwyddiannus lle gall masnachwyr rentu stondin yn y farchnad wythnosol am ddim tan 31/12/2024.

MARCHNAD Y CIGYDDION

Mae Marchnad y Cigyddion wrthi’n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd a bydd yn ailagor ar 28 Tachwedd, gan gyd-fynd â’r Farchnad Nadolig Fictoraidd lleol.

Y FARCHNAD GYFFREDINOL

Mae’r Farchnad Gyffredinol wrthi’n cael ei hadnewyddu a bydd yn ailagor ar 28 Tachwedd, gan gyd-fynd â’r Farchnad Nadolig Fictoraidd lleol.

TŶ PAWB

Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o dan yr un to.

AR DRÊN

Mae’n cymryd 15 munud i gerdded i’n marchnadoedd o Orsaf Gyffredinol Wrecsam a gallwch brynu tocynnau trên yn hawdd trwy Drafnidiaeth Cymru.

Trafnidiaeth Cymru

AR FWS

Mae’n cymryd 5 munud i gerdded i’n marchnadoedd o Orsaf Fysiau Wrecsam a gallwch ddod o hyd i amserlenni bysiau ar wefan CBSW.

Amserlenni Bysiau Wrecsam

MEWN CAR

Os ydych yn dod mewn car, mae nifer o feysydd parcio arhosiad hir a byr yng nghanol y ddinas. Ewch i wefan CBSW i gael mwy o fanylion.

Meysydd Parcio Canol y Ddinas