LLINELL AMSER

O hynny hyd yn hyn—mae marchnadoedd Wrecsam wastad wedi chwarae rhan ganolog yn y gymuned a’r economi leol.

Darganfod fwy am Farchnadoedd Wrecsam
1330

Yn ôl erthygl yn y Wrexham Leader yn 1960 - cynhaliwyd y marchnadoedd cynharaf a gofnodwyd ym mynwent yr eglwys ar ddyddiau Sul. Pan ddinistriwyd twr Eglwys y Plwyf roedd pobl y dref yn credu ei fod yn arwydd o ddicter gan Dduw ac mewn edifeirwch, newidiwyd diwrnod y farchnad i ddydd Iau ac fe’i symudwyd i leoliad newydd.

1463

Roedd y cofnod cynharaf o’r Farchnad Anifeiliaid yn Wrecsam i’w weld mewn gweithred sy’n dyddio’n ôl i drydedd flwyddyn teyrnasiad Edward IV, pan gyfeiriwyd ati fel Mercatus Averriorum, sy’n golygu Marchnad Adar mewn Lladin.

1620

Comisiynodd Charles Tywysog Cymru y syrfëwr John Norden i gynnal arolwg o holl eiddo’r tywysog, ac erbyn iddo gwblhau’r arolwg roedd y farchnad eisoes yn cael ei galw’n Forum Bestiale - sef ‘Beast Market’ yn Saesneg.

1848

Agorwyd Marchnad y Cigyddion ym mis Mawrth 1848, sef marchnad dan do gyntaf Wrecsam.

1879

Agorodd y Farchnad Fenyn ei drysau yn 1879 er mwyn bod yn ganolbwynt masnachu nwyddau ffermdai megis menyn a llaeth.

1879—1880

Ehangwyd Marchnad y Cigyddion ac ychwanegwyd mynedfa gefn newydd o Stryt Henblas.

1898

Prynodd Cyngor y Fwrdeistref safleoedd Sgwâr y Frenhines, sef datblygiad bach ger Stryt y Frenhines, a Neuadd Birmingham, gan ymestyn yr ardal a gosod to i’w gorchuddio. Cafodd yr ardal ei hail-enwi yn Farchnad Lysiau.

1939

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, oherwydd dogni a rheoliadau hylendid newydd cafodd y Farchnad Fenyn ei thrawsnewid. Cafodd ei throi’n Farchnad Gyffredinol a lleihawyd ei swyddogaeth draddodiadol o ran gwerthu nwyddau llaeth yn sylweddol.

1975

Symudodd y Farchnad Dydd Llun i’r safle lle mae Dôl yr Eryrod yn sefyll heddiw.

1990

Dymchwelwyd y Farchnad Lysiau.

1992

Ar safle’r hen Farchnad Lysiau, adeiladwyd Marchnad y Bobl yn ei lle.

1992

Mae Marchnad y Cigyddion yn cael ei hadnewyddu. Roedd yr adferiad yn cynnwys cael gwared ar y nenfwd crog i ddatgelu'r trusiau to gwreiddiol, yn ogystal ag adfer y mynedfeydd tywodfaen, a phaentio'r waliau mewnol ac allanol. Yn ystod y gwaith, darganfuwyd cloch y farchnad wreiddiol, ei hadfer a'i swnio i ddangos dechrau a diwedd pob diwrnod masnachu.

2015

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd y cynlluniau i newid Marchnad y Bobl i fod yn ddatblygiad marchnad a chelfyddydau am y tro cyntaf. Byddai’r gwaith ailwampio’n cynnwys ychwanegu dwy oriel, ardal berfformio, siop oriel a stondinau marchnad ychwanegol.

2018

Agorodd Tŷ Pawb ei ddrysau i gymuned Wrecsam ym mis Ebrill, ei brif bwrpas - bod yn lleoliad celfyddydol, diwylliannol a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â marchnad ac oriel gelf.

DYSGWCH FWY AM HANES WRECSAM


Er bod marchnadoedd Wrecsam yn rhan bwysig o’n hanes, dim ond un agwedd ydyn nhw. Mae gorffennol Wrecsam yn gyforiog o straeon diddorol, o bêl-droed i chwedlau trefol, a thwneli tanddaearol dirgel. Dysgwch fwy am y bobl sydd wedi siapio ein dinas.

Treftadaeth Wrecsam

Man cychwyn ar gyfer darganfod hanes cyffrous y rhanbarth hwn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Wefan Treftadaeth Wrecsam

'Local Bygones' y Leader

Nodweddion hanes lleol ac orielau hiraeth, gan gynnwys lluniau o archifau’r Leader.

Ewch i'r dudalen 'Local Bygones'